Description

Mae’r Brifysgol Agored wedi cydweithio â MoneySavingExpert (MSE) i gynhyrchu’r cwrs â bathodyn newydd yma sy’n rhad ac am ddim, er mwyn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i feistroli’ch arian. Cafodd y cwrs ei ysgrifennu gan y Brifysgol Agored, gydag MSE yn rhoi cymorth ac arweiniad.

Cynhyrchwyd y cwrs hwn yn Saesneg yn wreiddiol ac mae wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg gan y Brifysgol Agored.

Mae’r cwrs yn llawn dop o fideos, clipiau sain, cwisiau a gweithgareddau, ac mae’n mynd i’r afael â’r prif agweddau ar gyllid personol.

Mae’r cwrs yn dechrau drwy edrych ar sut i fod yn ddarbodus wrth wario arian, ac ar y pwysau ymddygiadol a marchnata sy’n ceisio dylanwadu ar yr hyn mae defnyddwyr yn ei brynu. Wedyn, mae’n edrych ar gyllidebau ac effaith treth ar gyllid aelwydydd. Mae benthyca arian yn rhywbeth mae bron pob aelwyd yn gyfarwydd ag ef, ond mae’n gallu achosi problemau ariannol. Mae’r cwrs yn esbonio sut i fenthyca arian yn synhwyrol os oes angen gwneud hynny, p’un a yw’n fenthyciad i brynu automotive neu’n forgais i brynu tŷ. Ydych chi eisiau cynilo neu fuddsoddi arian. Mae’r cwrs yn edrych ar gyfrifon cynilo syml, yn ogystal â buddsoddiadau fel cyfranddaliadau, nwyddau neu eiddo. Mae’n esbonio beth mae’n ei olygu a pha risgiau rydych chi’n eu hwynebu wrth i chi geisio cael mwy o elw ar eich arian. Mae’r cwrs yn dod i ben drwy fynd i’r afael â chymhlethdodau pensiynau. Bydd yn eich helpu chi i feddwl am eich opsiynau pan fyddwch chi’n ymddeol, fel beth fydd cyfanswm pensiwn y wladwriaeth i chi a sut mae ategu hwn gyda phensiwn personol neu alwedigaethol, a beth gallwch chi ei wneud os nad yw’ch darpariaeth pensiwn yn ddigon i ddiwallu’ch anghenion.

Mae’r cwrs am ddim hwn yn para 12 awr ac mae’n cynnwys chwe sesiwn. Gallwch chi weithio drwy’r cwrs yn eich amser eich hun. Mae’r chwe sesiwn wedi’u cysylltu er mwyn sicrhau bod y cwrs yn llifo’n mewn modd rhesymegol. Sef:

Gwneud penderfyniadau gwario da
Cyllidebu a threthi
Benthyca arian
Deall morgeisi
Cynilion a buddsoddi
Cynllunio ar gyfer ymddeoliad

If the coupon is just not opening, disable Adblock, or attempt one other browser.

Leave a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *