Description

Mae’r cwrs hwn, sef Ymwybyddiaeth ofalgar ym maes iechyd meddwl ac mewn carchardai, yn edrych ar sut y caiff ymwybyddiaeth ofalgar ei ddefnyddio mewn sefyllfaoedd cwnsela a lleoliadau fforensig. Byddwch yn dechrau drwy ddysgu ychydig mwy am y cysyniad o ymwybyddiaeth ofalgar, a sut mae ei ddeall a’i ddefnyddio. Byddwch wedyn yn ystyried yr amrywiol ffyrdd y gellir gwneud ymwybyddiaeth ofalgar yn rhan o sesiynau therapi, a buddion posib y rhain. Wedyn, byddwch yn edrych ar rai o’r ffyrdd penodol y mae ymwybyddiaeth ofalgar wedi cael ei ddefnyddio yng nghyd-destun carchardai. Yn olaf, bydd cyfle i chi feddwl ychydig yn fwy beirniadol am ymwybyddiaeth ofalgar fel mudiad ar ôl gwrando ar drafodaeth ynghylch sut mae ymwybyddiaeth ofalgar yn cael ei defnyddio yn y Gorllewin.

If the coupon will not be opening, disable Adblock, or attempt one other browser.

Leave a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *